Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Mai 2019
Amser:
09.21 -
11.52
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5540
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Karen Cornish, Llywodraeth Cymru Sarah Canning, Llywodraeth Cymru Howel Jones, Local Partnerships Rosie Pearson, Local Partnerships David Ward, Tirion Group |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Ryan Bishop (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AC a Neil Hamilton AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit mewn ymateb i'w lythyr.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Plant a Theuluoedd; a Sarah Canning, Pennaeth y Gangen Deddfwriaeth, Ymchwil a Rhianta, ar oblygiadau ariannol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Rhesymol) (Cymru).
3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth ar sut yr amcangyfrifwyd nifer yr achosion o gosb resymol a adroddwyd i'r heddlu a sut y mae hyn yn gysylltiedig â nifer yr erlyniadau yng Nghymru bob blwyddyn.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan David Ward, Prif Weithredwr, Grŵp Tirion; Howel Jones, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Rhaglenni a Phrosiectau, Partneriaethau Lleol; a Rosie Pearson, Cyfarwyddwr Corfforaethol Datblygu Busnes, a Chyfarwyddwr Rhaglen PPP a PFI, Partneriaethau Lleol, ar ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.
9.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiwn y Cynulliad ynghylch y diweddariad ar y cynllun ymadael gwirfoddol a llacio cap y sefydliad.